Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (30)v2 |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud) |
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
|
3. Cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog yn dilyn y refferendwm ar bwerau’r Cynulliad (15 munud)
NDM4849 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Newidiadau arfaethedig i’r Rheolau Sefydlog yn dilyn y refferendwm ar bwerau’r Cynulliad – Gorchmynion adran 109’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2011;
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B o Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Dogfen ategol:
|
4. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2012/13 (30 munud)
NDM4851 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2012-13, fel y pennir yn Nhabl 5 o’r ddogfen “Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cynigion Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2012-13”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 9 Tachwedd 2011 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllideb Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
Dogfennau ategol: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cynigion: Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2012-13 |
5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM4852 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu’r sector preifat yng Nghymru i dyfu;
2. Yn annog Llywodraeth Cymru i wella’r amodau ar gyfer twf economaidd yng Nghymru drwy:
a. gwella seilwaith a sgiliau;
b. darparu eglurder ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r economi;
c. hybu mewnfuddsoddiad i Gymru a chefnogi allforion Cymru; a
3. Yn nodi y bydd Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn gymwys i gael arian Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd am y trydydd tro.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Dileu is-bwyntiau 2a, 2b a 2c a rhoi yn eu lle:
a) gwella seilwaith a sgiliau drwy sefydlu rhaglen arloesi i ddatblygu’r seilwaith modern a’r sgiliau lefel uchaf y mae eu hangen ar gyfer economi fodern.
b) rhoi eglurder ynghylch cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r economi drwy leihau cyfanswm nifer y rheoliadau sydd ar fusnesau Cymru, gan gynnwys defnyddio cymalau machlud, dull un i mewn un allan, i reoliadau newydd;
c) cydnabod y bydd sector preifat llwyddiannus yn dibynnu ar fewnfuddsoddiad a busnesau sydd wedi'u creu yng Nghymru; a
d) darparu rhaglen gymorth well i fusnesau newydd Cymru, gan gynnwys undeb credyd busnesau a Chyfnewidfa Stoc Cymru.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen buddsoddi cyfalaf gynhwysfawr ledled Cymru.
|
6. Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM4850 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cadarnhau targedau ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’ a ‘Strategaeth Cymru ar Newid yn yr Hinsawdd’ ac yn croesawu’r cyfraniad nodedig at gyrraedd y targedau hyn gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen yn ei strategaeth ar gyfer ‘Prydain Di-garbon 2030’; ac
2. Yn galw ar Weinidogion Cymru i lansio ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus ar newid yn yr hinsawdd hyd at Gynhadledd Rio+20.
Gellir gweld ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’ drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/topics/sustainabledevelopment/publications/onewalesoneplanet/?skip=1&lang=cy
Gellir gweld ‘Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd’ drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
Gellir gweld y strategaeth ar gyfer ‘Prydain Di-garbon 2030’ drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei dad-ddethol]
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn camau rhagweithiol i leihau cyfraniad Cymru at y newid yn yr hinsawdd drwy fuddsoddi mewn cynlluniau effeithlonrwydd ynni a fydd hefyd yn helpu i leihau tlodi tanwydd ledled Cymru.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 2, dileu ‘gwybodaeth’ a rhoi ‘ymgysylltu’ yn ei le.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi’r Strategaeth Ymgysylltu ar y Newid yn yr Hinsawdd ar waith yn gynt;
b) gweithredu fel esiampl i eraill drwy ymrwymo i wneud rhagor o doriadau sylweddol i ôl troed carbon ystad y Llywodraeth a helpu i hybu lleihau allyriadau drwy’r sector cyhoeddus, y sector busnes a'r sector gwirfoddol ehangach yng Nghymru;
c) cefnogi busnesau i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd economi carbon isel; a
d) ailedrych ar ei tharged i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 3% i weld a yw’n dal yn feincnod cenedlaethol priodol i geisio lliniaru’r cynnydd o 2°C yn yr hinsawdd fyd-eang.
Gellir gweld y Strategaeth Ymgysylltu ar y Newid yn yr Hinsawdd drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
|
Cyfnod Pleidleisio |
7. Dadl Fer (30 munud)
NDM4853 Lynne Neagle (Tor-faen):
Tynnu’r plwg – Effaith torri’r tariff cyflenwi trydan yng Nghymru
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 Dydd Mawrth, 22 Tachwedd 2011